Wythnos Busnes Gwynedd 2010
Wythnos Busnes Gwynedd yw un o uchafbwyntiau calendr busnes Gwynedd, ac mae’n rhoi cyfle i ddod â busnesau at ei gilydd i rannu syniadau, cael cyngor a gwybodaeth, a dathlu llwyddiant lleol.
Bydd yr Wythnos yn darparu rhaglen lawn o weithdai, seminarau a digwyddiadau rhwydweithio ac yn rhoi llwyfan i ddysgu mwy am lewyrch busnes yn y Sir a sut i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael i fusnesau.
Ni fydd Gwobrau Busnes Gwynedd yn dychwelyd tan 2011, ond yn y cyfamser rydym yn chwilio am Arwyr Busnes y Sir. Gallwch enwebu eich hun neu rywun arall - bydd manylion a ffurflenni enwebu yn ymddangos yn y wasg leol yn fuan, neu gallwch eu lawrlwytho yma.
Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau AM DDIM ac mae manylion ar y wefan yma, felly ewch ati i bori trwy’r rhaglen ac i gofrestru er mwyn sicrhau eich lle.